Cadeirydd/Chair: Arwel Ellis Owen

Prif Weithredwr/Chief Executive: Rhian Huws Williams

 


Dyddiad/Date:     16.12.11

 

E-bost/mail:         Rhian.jones@ccwales.org.uk


South Gate House
Wood Street
Caerdydd/Cardiff
CF10 1EW
Ffôn/Tel: 029 2022 6257
Ffacs/Fax: 029 2038 4764

E-bost/mail: info@ccwales.org.uk
Gwefan/Website: www.ccwales.org.uk

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol  

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn     

 

RC 49 Cyngor Gofal Cymru

 

Clerc i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA


Annwyl Syr/Madam

 

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn

 

Diolch am y cyfle i ddarparu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn.

 

 

1.         Cefndir – Cyngor Gofal Cymru

 

Cyngor Gofal Cymru (y Cyngor Gofal) yw’r corff rheoleiddio ar gyfer y gweithlu gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Cylch gwaith statudol y Cyngor Gofal yw cofrestru a rheoleiddio’r gweithwyr cymdeithasol a’r rheolwyr a’r gweithwyr gofal cymdeithasol a rheoleiddio’u haddysg a’u hyfforddiant.  Mae hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a chynllunio’r gweithlu.

 

Mae prif gyfrifoldebau’r Cyngor Gofal yn canolbwyntio ar wella diogelwch cyhoeddus, trwy:

 

·         Hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer yn y gweithlu;  

·         Hyrwyddo safonau uchel o hyfforddiant.

 

Mae’r Cyngor Gofal yn gorff rheoleiddio modern sydd wedi’i osod o fewn cyd-destun datganoli ac yn un sy’n mynd i’r afael â diogelwch cyhoeddus mewn ffordd wahanol, gan fod yn atebol i ddefnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr. Mae aelodau’r Cyngor Gofal eisoes wedi llwyddo i gynnwys lleygwyr, cynhalwyr a defnyddwyr gwasanaethau yn llawn yn ei waith llywodraethu ac ym mhob agwedd ar ei waith.

 

Mae aelodaeth y Cyngor, ei Bwyllgorau a’i bartneriaethau gofal cymdeithasol rhanbarthol wedi darparu mecanwaith i’r Cyngor Gofal weithio mewn partneriaeth â’r sector. Mae hyn yn ein galluogi i gysylltu â’r cyhoedd, y sector annibynnol a’r trydydd sector. Er mwyn gwneud ein rôl o gyflawni cylch gwaith y Cyngor Sgiliau Sector (CSS) yng Nghymru, rhaid cael ymgysylltiad da â chyflogwyr a gwybodaeth hygyrch ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Mae’r dull hwn wedi golygu bod angen i safonau, cymwysterau a chanllawiau ymarfer gael eu datblygu mewn partneriaeth â’r sector.

 

Mae’r Cyngor Gofal yn gweithio ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol gyda phartneriaid o bob lefel, yn darparu gwybodaeth ac yn sicrhau bod y sector yn ymwybodol o’n camau gweithredu ac yn gweithio gyda ni yn y mentrau rydym ni wrthi’n eu datblygu. Mae gan y Cyngor Gofal swyddogaeth allweddol i gefnogi’r gwaith o gyflawni Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu drwy arwain ac ysgogi’r newid sylweddol ar gyfer ymarferwyr cymwys a hyderus, gan symud y tu hwnt i’r safonau gofynnol i fodel dysgu ac addysgu proffesiynol parhaus.

 

Mae yna fwy o ddisgwyliadau oddi wrth ymarferwyr, a thargedau uwch o ran beth sydd ei angen ar ymarferwyr i fod yn ymarferwyr proffesiynol, hyderus. Un o’r sbardunau allweddol ar gyfer newid fydd y pwyslais ar rôl arweiniol rheolwyr ym maes gofal preswyl o ran sicrhau safon yr ymarfer a’r ymarferwyr.

 

Rydym ni’n croesawu’r cyfle i gyfrannu at yr ymchwiliad i archwilio darpariaeth gofal preswyl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall gofal preswyl ddiwallu anghenion cyfredol pobl hŷn a’u hanghenion yn y dyfodol. Bydd ein hymateb yn canolbwyntio’n benodol ar y gweithlu, ac ar feysydd lle mae gennym wybodaeth benodol i’w darparu i’r ymchwiliad. Felly, byddwn yn ymateb i gwestiynau penodol yn unig.

 

 

2.         Yr Ymateb

 

Y broses a ddilynir gan bobl hŷn wrth iddynt fynd i ofal preswyl ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau amgen yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau ail-alluogi a gofal yn y cartref.

 

Bydd darparu gofal hygyrch yn y gymuned yn ganolog i’r gwaith o ddatblygu’r weledigaeth o gael gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion, yn unol â Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Mae’n bwysig fod gwaith strategol yn cael ei wneud i beth fydd y goblygiadau i’r gweithlu os ceir modelau newydd o wasanaethau amgen yn y gymuned, gan gynnwys gofal cartref ac ail-alluogi.

 

Mae modelau newydd o wasanaethau yn y gymuned wedi dod i’r fei a allai gynyddu’r ystod o ddewisiadau sydd ar gael cyn i berson orfod mynd i mewn i ofal preswyl. Mae rhai enghreifftiau penodol o’r rhain yn cynnwys datblygu teleofal, rolau newydd fel Gweithwyr Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gwasanaethau a gynlluniwyd i ddarparu cyngor, gwybodaeth a chymorth yn gynnar.

 

Mae pwyslais arbennig wedi’i roi ar wasanaethau ail-alluogi yn y blynyddoedd diwethaf. Caiff y gwasanaethau hyn eu prif ffrydio fwyfwy gan Awdurdodau Lleol, a gall cartrefi gofal preswyl ddarparu mwy o wasanaethau cymunedol, e.e. ail-alluogi, gofal tymor byr. Er mwyn sicrhau llwyddiant strategaethau a mentrau o’r fath, rhaid sicrhau bod gan y bobl sy’n eu comisiynu y sgiliau angenrheidiol fel eu bod yn addas i’r diben ac yn gost-effeithiol. 

 

Mae Strategaethau ar y cyd rhwng Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles wedi bod yn gyfrwng i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaethau iechyd gydweithio â phartneriaid eraill i ddatblygu gwasanaethau cymunedol, ac mae gwasanaethau a chymorth i gynhalwyr yn rhan annatod o alluogi pobl i aros yn eu cartrefi’n hirach.

Mae cyngor a gwybodaeth am wasanaethau’n hanfodol hefyd gan nad yw rhai pobl hŷn (na chynhalwyr) bob amser yn gwybod beth arall sydd ar gael neu’n gyndyn i ofyn am gymorth yn gynnar (e.e. pobl hŷn sy’n talu dros eu hunain).

 

Cyfrannodd y Cyngor Gofal at waith a wnaethpwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith Gwasanaethau Cymunedol yng Nghymru, er mwyn ceisio mapio datblygiad gwasanaethau cymunedol a rhannu arfer da.

 

Mae gan bob un o’r materion uchod oblygiadau mawr i’r gweithlu yn y maes gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol o ran asesu’r angen am wasanaethau cymunedol, eu cynllunio a’u cyflwyno. Maen nhw hefyd yn gofyn am sgiliau arwain a rheoli yn y sector gofal cymdeithasol, a chyfeirir at rai o’r rhain yn ddiweddarach yn yr ymateb hwn.

 

Mae gweithlu’r maes gofal cartref, fel y’i cyfrifwyd ar gyfer y lleoliadau hynny a gaiff eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), yn cael ei gyflogi mewn408[1] o asiantaethau gwahanol sydd wedi’u cofrestru gydag AGGCC ar draws y sector cyhoeddus, y sector annibynnol a’r trydydd sector. Mae pob asiantaeth yn unigryw ac yn hyfforddi a rheoli ei gweithlu ei hun er mwyn bodloni ymrwymiadau’r telerau contract penodol sydd ganddynt ar unrhyw adeg benodol. Mae maint yr asiantaethau’n amrywio o oddeutu 20-50 o weithwyr mewn asiantaethau bach preifat i fwy na 200 o weithwyr mewn gwasanaethau yn y sector cyhoeddus.

 

Yn ôl ystadegau 2010 – 11, darparwyd 3,621,515 awr o ofal cartref yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol yng Nghymru a darparwyd 7, 555,306 awr gan y sector annibynnol dan gontract i’r awdurdod lleol.

 

Nid oes data ar gael ar gyfer cyfanswm y gweithlu cyfan, ond erbyn Mawrth 2011, roedd awdurdodau lleol yn cyflogi 5,995 aelod o staff gofal cartref, sef 21% o gyfanswm y staff. O ystyried yr oriau a nodir uchod, mae’n amlwg bod llawer mwy na hyn o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y maes gwasanaethau gofal cartref.

 

Nod yr Astudiaeth ‘Gofal yn y Cartref’[2]a gyhoeddwyd gan y Cyngor Gofal yn 2010 oedd cynnal astudiaeth o’r gweithlu gofal yn y cartref a’r goblygiadau i’r gweithlu yn sgil symud tuag at ffyrdd newydd o weithio. Comisiynwyd y prosiect i ateb tri chwestiwn allweddol:

 

1. Ym mha gyflwr y mae’r gweithlu gofal yn y cartref ar hyn o bryd?

2. Beth yw’r weledigaeth ar gyfer gofal yn y cartref a’i weithlu yn y dyfodol?

3. Beth sydd angen i ni ei wneud i symud y gweithlu cyfredol tuag at y weledigaeth hon?

 

Nododd yr adroddiad yn glir fod angen gwneud mwy o waith i hyrwyddo’r gwerth ac i wneud yn siŵr fod gan y gweithlu sy’n darparu gofal yng nghartrefi pobl neu yn y gymuned y sgiliau a’r wybodaeth, a’u bod yn cael eu cynorthwyo a’u rheoli’n briodol i ddarparu’r gwasanaeth newidiol.

Roedd hi hefyd yn glir o’r adroddiad fod angen gwneud mwy o waith i baratoi a chynorthwyo cynhalwyr di-dâl yn eu rolau. Mae addasiadau a chyfarpar yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r gwaith o gynorthwyo pobl i aros yn eu cartrefi, a phwysleisiwyd rôl bwysig y Therapydd Galwedigaethol yn y cyd-destun hwn. “Mae angen cyfres gymhleth iawn o ryngweithiadau er mwyn sicrhau bod yr 11.7 miliwn o oriau o ofal yn y cartref a ddarperir gan oddeutu 15,500 o staff gofal yn y cartref i dros 25,000 oddefnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel. Nid yw hyn yn cynnwys bron 300 miliwn awr o ofal di-dâl a ddarperir gan gynhalwyr”.

 

Un o’r meysydd allweddol yw’r gymysgedd o sgiliau sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau yn y gymuned, ac un o’r materion o fewn y maes hwn yw cydbwysedd rhwng agweddau iechyd a gofal cymdeithasol rhai o’r rolau. 

 

Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, mae’r Cyngor Gofal wedi cymryd rhai camau allweddol, er enghraifft, rydym wedi cydweithio ag Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH) i nodi ystod o fodelau sydd wedi’u datblygu ledled Cymru ac rydym wrthi’n datblygu fframwaith i lywodraethu ymarfer ar gyfer y gweithlu sy’n pontio’r ffiniau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Gwneir hyn er mwyn cydnabod bod staff yn chwarae rhan bwysig mewn darparu gwasanaethau a’n bod ni’n dibynnu ar eu sgiliau a’u hymroddiad i wneud yn siŵr bod anghenion iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu diwallu mewn ffordd fodern a chefnogol. Rhaid sefydlu trefniadau llywodraethu cryf i gynorthwyo staff i wneud y gwaith sy’n ddisgwyliedig ganddynt, ac i sicrhau bod sefydliadau’n defnyddio’u hadnoddau’n effeithlon ac yn effeithiol.

 

Gan adeiladu ar ganlyniadau’r adroddiad hwn, mae’r Cyngor Gofal wrthi’n datblygu ystod o waith a fydd yn cynnwys datblygiadau i gynorthwyo’r gweithlu sy’n gweithio gyda phobl hŷn, gan gynnwys pobl hŷn â dementia. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru sef sicrhau bod pobl yn gallu parhau i fod yn annibynnol cyhyd â phosibl trwy dderbyn gofal priodol yn y cartref, a gwella sgiliau’r gweithlu’n gyffredinol fel ei fod yn gallu ymdopi ag anghenion mwy cymhleth y boblogaeth sy’n heneiddio.

 

Mae camau’n cael eu cymryd hefyd i gynorthwyo’r gweithlu sy’n gweithio gyda chynhalwyr, yn ogystal â chynorthwyo’r gweithlu i ddatblygu gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau trwy arweiniad, cymwysterau, unedau a fframweithiau dysgu a datblygu proffesiynol parhaus. Bydd hyn yn sicrhau bod y gweithlu’n ymwybodol o anghenion cynhalwyr ac yn ymateb i’r anghenion hynny, yn ogystal â sicrhau bod cynhalwyr yn ymwybodol o’u hawliau, a beth sydd ganddynt yr hawl i’w ddisgwyl gan weithwyr gofal cymdeithasol, fel y nodwyd yn y Cod Ymarfer i weithwyr Gofal Cymdeithasol.

 

Un o’r prif sbardunau yng ngwaith cyfredol y Cyngor yw gweithlu sy’n gallu darparu gwasanaethau cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion, fel y rhagwelir yn y ddogfen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Bydd y gweithlu hwn yn hyderus ac yn gymwys i ddarparu’r gwasanaethau hynny, yn y gymuned ac mewn gofal preswyl. Felly, mae gwaith y Cyngor Gofal yn canolbwyntio ar hyn ac ar y cysyniad o broffesiynoli’r gweithlu gofal cymdeithasol yn gyffredinol, fel yr amlinellwyd yn y ddogfen bolisi. “Credwn fod ansawdd gweithwyr proffesiynol a'u proffesiynoldeb yn hollol ganolog i greu gwasanaethau cymdeithasol sy'n ymateb i anghenion ac sy'n gynaliadwy”.

 

Trwy ei rôl fel y Cyngor Sgiliau Sector, mae’r Cyngor Gofal wedi cyfrannu at y gwaith o gasglu gwybodaeth am y farchnad lafur. Yn gyffredinol, disgwylir i’r angen am wasanaethau gynyddu, a bydd y gwasanaethau i bobl hŷn yn cynyddu hefyd yn unol â’r newidiadau demograffig yn y gymdeithas yng Nghymru.  Rhwng 2002 a 2008, gwelwyd cynnydd cyffredinol o 4.2% y flwyddyn yng nghyflogaeth y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru[3]. Rhaid gwneud gwaith o’r newydd ar effaith yr hinsawdd economaidd ar y cynnydd a ragwelwyd yn angenrheidiol i fodloni’r galw yn y dyfodol a hefyd y goblygiadau o orfod cyflwyno modelau gwahanol o wasanaethau.

 

Yn ôl yr adroddiad diweddar: Archwiliad Strategol Cenedlaethol Cymru o Sgiliau 2011: ‘Sgiliau ar gyfer Swyddi’[4] a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau (UKCES), y sector gofal a gwasanaethau personol cysylltiedig oedd un o’r 10 galwedigaeth â’r twf cyflymaf yng Nghymru. Mae’r cynnydd hwn wedi sbarduno datblygiad sgiliau’r gweithlu o fewn y sector, ac mae hyn yn debygol o barhau.  

 

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi ‘iechyd a gofal cymdeithasol’ yn yr un garfan i raddau, ond mae hefyd yn nodi’n benodol fod galwedigaethau gwasanaethau gofal personol rheng flaen, gan gynnwys cynorthwywyr gofal, ymhlith y grwpiau galwedigaethol gyda’r galw mwyaf am weithwyr newydd hyd at 2017. Mae’r Cyngor Gofal yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella’r data sydd ar gael ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan fod y wybodaeth braidd yn dameidiog ar hyn o bryd ac yn cael ei chasglu gan wahanol asiantaethau at ddibenion amrywiol, sy’n rhwystr wrth fynd ati i gynllunio’r gweithlu.

 

Tua £10.49[5] yr awr yw lefel cyflog gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru ar gyfartaledd, ond mae’r ffigur hwn yn cynnwys y rheolwyr a’r staff uwch hynny a gynhwyswyd yn y data. Mae’r mwyafrif o weithwyr gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau gofal preswyl ac yn y cartref fel ei gilydd yn ennill yr isafswm cyflog neu ychydig yn fwy.

 

Trwy ei Bartneriaethau Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol, mae’r Cyngor Gofal wrthi’n datblygu sawl darn o waith sy’n gysylltiedig â recriwtio a chadw staff. Mae’r mentrau recriwtio’n cynnwys datblygu Llysgenhadon Gofal yn genedlaethol, sy’n gweithio gyda phobl ifanc i gynyddu’r wybodaeth am y sector a’r cyfleoedd sydd ar gael. Mae mwy na 80 o lysgenhadon ledled Cymru, ac maen nhw’n siarad yn bennaf â meysydd o fewn ysgolion a cholegau sydd wedi bod yn feysydd anodd i’r sector eu cyrraedd yn draddodiadol. Rydym wedi cael ymateb cadarnhaol hyd yma, gydag ysgolion yn dechrau gweld y sector mewn golau newydd wedd a’r bobl iau’n gallu dysgu mwy gan weithwyr rheng flaen am natur y gwaith. Mae’n rhy gynnar eto i ddweud faint fydd yn mynd i mewn i’r sector o ganlyniad i hyn. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid fel y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru i ddarparu gwybodaeth i’w cynghorwyr ar y priodweddau sydd eu hangen i weithio yn y sector, ac i ymgysylltu â chyflogwyr i gynnig hyfforddiant a chyfleoedd i bobl sy’n chwilio am waith. Ychydig iawn o ganlyniadau a welwyd hyd yma, ond mae sawl maes yn nodi bod yna fwy o ddiddordeb yn y sector.

 

Mae prentisiaethau ar gael mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Dysgu a Datblygiad Plant ac mae gwaith ar droed i ddatblygu cyrsiau coleg llawn amser sy’n gysylltiedig â’r Diplomâu Galwedigaethol newydd er mwyn cynorthwyo dysgwyr ifanc yn bennaf i gael amser i ddysgu a datblygu mewn Coleg a gadael gyda chymhwyster sy’n eu paratoi i weithio yn y sector.

 

 

Gallu’r sector gofal preswyl i fodloni’r gofyn am wasanaethau gan bobl hŷn o ran adnoddau staffio, gan gynnwys y sgiliau sydd gan staff a’r hyfforddiant sydd ar gael iddynt, nifer y lleoedd a’r cyfleusterau, a lefel yr adnoddau.

 

Roedd Cartrefi Gofal Preswyl i Oedolion Hŷn wedi darparu 23,318 o leoedd mewn 702 o leoliadau erbyn mis Medi 2011.[6] Cyflogir 19,199 o bobl mewn gofal preswyl i oedolion ar draws pob rhan o’r sector yng Nghymru[7].

 

Ers mis Mehefin 2011, mae’n rhaid i reolwyr Cartrefi Gofal i Oedolion gofrestru gyda’r Cyngor Gofal, ac o 2012 ymlaen, bydd yn rhaid i reolwyr asiantaethau Gofal Cartref gofrestru hefyd. Mae 975 o Reolwyr Cartrefi Gofal i Oedolion wedi cofrestru gyda’r Cyngor Gofal hyd yma ac mae ymdrechion ar y gweill i ganfod faint o’r unigolion hyn sy’n gweithio o fewn gwasanaethau pobl hŷn.

 

Mae rheolwyr y gwasanaethau’n ganolog er mwyn sicrhau proffesiynoldeb gwasanaethau yng Nghymru. Bydd eu harweiniad proffesiynol o fewn ymarfer yn un o elfennau craidd y gwaith o lywodraethu a darparu ymarfer sydd bob amser o safon uchel. Mae gan y sector ystod o gymwysterau gofynnol i staff ym mhob lleoliad. Bydd angen symud oddi wrth gymwysterau gofynnol yn y dyfodol, gan newid i fodel o ddatblygiad parhaus lle bydd rheolwyr a staff yn parhau i ddatblygu a hyfforddi er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol i’r bobl hŷn sydd yn awr yn mynd i mewn i ofal preswyl.

 

Mae proffil pobl hŷn hynny sy’n mynd i ofal preswyl wedi newid dros y blynyddoedd diweddar. Mae anghenion gofal y rhai sy’n mynd i ofal preswyl ar lefel uwch ac yn aml, bydd ganddynt gyflyrau iechyd sy’n gofyn am elfen o arbenigedd. Bydd y boblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru a’r nifer cynyddol sy’n byw dros 85 oed yn parhau i effeithio’n gynyddol ar y duedd hon.

 

Mae cynnydd sylweddol yn nifer y bobl hŷn â dementia sy’n mynd i ofal preswyl (hyd at un rhan o dair), ac mae hyn yn gofyn am sgiliau arwain ardderchog ymhlith rheolwyr gwasanaethau, a sgiliau arbenigol o fewn y gweithlu. Er mwyn cyflawni rhagoriaeth mewn darpariaeth, rhaid i’r gweithlu gael cymwysterau a hyfforddiant, a rhaid sicrhau bod y cymwysterau’n addas i’r diben.

 

Un o rolau allweddol y Cyngor Gofal hyd yma yw gwneud yn siŵr bod y cymwysterau (sy’n seiliedig ar gymhwysedd) yn gyfredol fel y gellir defnyddio’r cymwysterau fel tystiolaeth o’r safon a gyflawnwyd. Felly, mae’r Cyngor Gofal wedi bod yn allweddol i ddatblygiad y fframwaith cymwysterau newydd i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh) yn cynnig mwy o eglurhad a hyblygrwydd i’r cymwysterau sydd ar gael yn y gweithlu.

 

Mae’r cymwysterau a’r unedau’n galluogi pobl i adeiladu ar eu cyraeddiadau mewn ffordd ffurfiol a chydnabyddedig, trwy astudio’r cymhwyster llawn neu gwblhau unedau achrededig ar gyfer eu datblygiad parhaus. Mae’r unedau wedi’u hysgrifennu mewn iaith ac arddull glir a fydd yn cynorthwyo’r dysgwyr, y cyflogwyr a’r aseswyr i nodi’r unedau sy’n berthnasol i’w hanghenion.

 

Er mwyn datblygu’r cymwysterau cyflawnwyd cryn dipyn o waith partneriaeth rhwng cyflogwyr, darparwyr dysgu, arbenigwyr pwnc a allai fod yn ddefnyddwyr gwasanaethau, cynhalwyr neu ddarparwyr gwasanaeth, sefydliadau dyfarnu a phartneriaid cyngor sgiliau sector. Er enghraifft, mae’r cymwysterau mewn iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u datblygu ar y cyd gan Sgiliau Gofal a Datblygu a Sgiliau Iechyd a byddant yn rhan o’r fframweithiau Prentisiaeth a rennir yng Nghymru. Bydd y datblygiad hwn yn sicrhau bod gan yr unigolion  hynny sy’n gweithio ar draws sectorau yr un ddealltwriaeth a gallu i ddarparu’r gofal sydd ei angen ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, er enghraifft. Bydd hyn yn sicrhau nad oes cymaint o ddyblu gwasanaethau gan y bydd gweithwyr yn gallu darparu sgiliau arbenigol ar draws sectorau.  Beth yw manteision hyn a sut bydd yn helpu i sicrhau ymarfer o safon uchel a chynaliadwyedd?

 

Mae’r holl gymwysterau’n seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC). Y rhain sy’n meincnodi’r perfformiad. Maent yn darparu ffordd o asesu perfformiad mewn swydd: maent yn ddatganiadau seiliedig ar waith sy’n nodi’r gallu, y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r profiad y dylai’r unigolyn eu cael i gyflawni tasgau allweddol yn effeithiol. Mae’r rhan fwyaf o’r unedau sy’n ffurfio rhan o’r cymwysterau newydd yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol perthnasol. Pan fo sectorau wedi ymgysylltu â meysydd penodol eraill, mae unedau ychwanegol wedi’u datblygu hefyd, e.e. ar gyfer gofal dementia.

 

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn nodi y bydd “angen mwy o gydweithio wrth drefnu llawer o agweddau ar y gwaith ategol o ddarparu gwasanaethau, er enghraifft datblygiad a hyfforddiant staff”. Bydd yna ddwy ran i rôl y Cyngor Gofal yn y gwaith pwysig hwn, sef arwain dull newydd er mwyn sicrhau bod yna ddysgu hygyrch a rheoleiddio safon y dysgu hwnnw ar gyfer gweithwyr cymdeithasol y dyfodol. O ran gweithwyr eraill ym maes gofal cymdeithasol, mae gan y Cyngor rôl bwysig o sicrhau bod yna hyder yn safon a phriodoldeb yr hyfforddiant a’r dysgu i reolwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol.

 

 

Ansawdd gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd; effeithiolrwydd gwasanaethau o ran bodloni’r amrywiol anghenion ymhlith pobl hŷn; a rheolaeth ar gau cartrefi gofal.

 

Mae gweithlu effeithiol a chymwys yn ganolog i safon y gwasanaethau mewn gofal preswyl. Mae’n ddiddorol nodi bod astudiaeth ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi dod i’r casgliad bod cartrefi gofal preswyl sydd â chyfran uwch o staff gofal cymwys yn cyflawni canlyniadau gwell i breswylwyr[8]. Canfu’r astudiaeth fod canlyniadau’r preswylwyr yn well mewn lleoliadau a oedd â mwy o staff cymwys, neu staff a oedd yn gweithio tuag at gymwysterau. Roedd materion a oedd yn ymwneud â’r adeilad, fel pa mor gartrefol oedd yr amgylchedd, yn well hefyd pan oedd gan y staff gymwysterau neu’n gweithio tuag at gymwysterau.

 

Nod arall y gwaith diweddar o ddiwygio’r cymwysterau yw darparu amrywiaeth eang o ddysgu sy’n rhoi’r gymysgedd briodol o wybodaeth, sgiliau a gwerthoedd i staff a rheolwyr. Er enghraifft, bydd uned benodol ar ofalu am unigolion â dementia, sy’n canolbwyntio ar hawliau galluogi a dewisiadau unigolion â dementia, gan gyfyngu ar bob risg, yn darparu dysgu a fydd yn sicrhau dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth allweddol a dulliau cytûn o weithio sy’n cefnogi cyflawni hawliau a dewisiadau unigolion â dementia, lleihau’r perygl o niwed a chaniatáu’r hawliau a’r dewisiadau eithaf i bobl â dementia, fel rhan o’r canlyniadau dysgu.

 

Mae’r Cyngor Gofal hefyd wrthi’n datblygu mentrau sy’n canolbwyntio ar anghenion penodol pobl hŷn yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n arbennig ar angen ieithyddol yn hyn o beth; trwy fenter ranbarthol gan y Cyngor Gofal, mae gwaith ar droed i asesu sgiliau iaith y gweithlu yng Nghymru.

 

Fel rhan o’n dull newydd o reoleiddio, mae gwaith yn cael ei ddatblygu gan AGGCC a fydd yn canolbwyntio ar egluro’r mesurau ar gyfer gofal o safon uchel mewn gofal preswyl, ac o fewn y gwaith hwnnw, byddwn yn canolbwyntio ar y gofynion newydd i reolwyr fel arweinwyr ymarfer o ansawdd da.

 

Mae’r ddogfen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn gofyn i ni greu cyswllt amlwg rhwng darparwyr y gwasanaethau sydd wedi cofrestru gydag AGGCC a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio o fewn y gwasanaethau hynny sydd wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor Gofal. 

 

Felly, mae’r Cyngor Gofal ac AGGCC wedi bod yn gweithio ar ddatblygu rhaglen waith i gryfhau’r cydweithrediad rhwng y ddau sefydliad er mwyn cyflawni’r nod hwn. Mae’r ddau sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod yna fwy o ddata a gwybodaeth am wasanaethau a ddarperir a’r gweithlu, sy’n darparu tystiolaeth gadarn o’r safon gyfredol a’r anghenion gwella.

 

 

Effeithiolrwydd trefniadau rheoleiddio ac archwilio ar gyfer gofal preswyl, gan gynnwys y cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra ariannol darparwyr gwasanaethau.

 

Mae’r Cyngor Gofal a’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol  (AGGCC) yn ddwy ran hanfodol, annibynnol a chyfartal o system reoleiddio, archwilio a gwella ansawdd, a luniwyd i wella’r profiad a’r canlyniadau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

 

Mae model cyfredol y Cyngor Gofal ar gyfer rheoleiddio’r gweithlu cofrestredig yn cynnwys y broses o dderbyn cwynion unigol neu faterion sy’n codi, a chael y cyngor i ymateb i’r rhain yn unol â’r gweithdrefnau. Yna, caiff y materion cyffredinol a ddaw i’r golwg yn sgil y cwynion hyn eu hasesu ac eir i’r afael ag unrhyw dueddiadau amlwg trwy ddilyn gweithdrefn benodol. Er enghraifft, gallai canllawiau ymarfer gael eu datblygu, neu anghenion hyfforddi cyffredinol gael eu hamlygu, neu efallai y bydd materion yn codi sydd angen eu trafod â’r AGGCC.

 

Mae’r Cyngor Gofal a’r AGGCC wedi gweithio gyda’i gilydd i’r un diben er mwyn gwella’r profiad a’r canlyniadau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Dyma ganlyniadau’r agenda a rennir:

·         Mae safon y gwasanaethau yng Nghymru’n gwella

·         Mae gan Gymru weithlu gwasanaeth cymdeithasol a gofal cymdeithasol mwy diogel, cymwys a hyblyg

·         Mae gan Gymru fodel rheoleiddio effeithiol, cymesur a llwyddiannus ym maes gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol

·         Mae pobl Cymru’n deall pa safon o wasanaeth y dylent ei ddisgwyl ac mae ganddynt brofiad da o wasanaeth sy’n canolbwyntio ar eu hanghenion, eu hawliau a’u risgiau

·         Mae gwaith y ddau sefydliad yn cael ei ystyried yn batrwm rhyngwladol o arfer da ac arloesedd.

 

Mae’r Cyngor Gofal a’r AGGCC wedi bod yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd i archwilio’r ffordd orau o newid pwyslais y gwaith o reoleiddio pobl, hyfforddiant a gwasanaethau a’r ffordd yr archwilir y gwasanaeth er mwyn helpu gyda’r gwaith o gyflawni gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy  “diogel ac effeithiol sy’n canolbwyntio ar bobl, gan feithrin eu cryfderau a hybu eu lles”.

 

Mae’r trafodaethau hyn hefyd wedi cynnwys ystyried nodweddion allweddol rheolwyr o safon uchel ynghyd â nodweddion a dangosyddion gweithleoedd sy’n arddangos safonau uchel o arferion rheoli. Mae’r ddau sefydliad yn cydnabod bod angen newid ac yn croesawu’r cyfle i archwilio’r ffordd orau o adeiladu ar gryfderau a manteisio ar y cyfle i roi trefniadau gwell ar waith lle bo angen. O ganlyniad i brofiadau a’r angen am newid, mae’r ddau sefydliad wedi mynd ati’n unigol i foderneiddio’u trefniadau rheoleiddio. Gyda’n gilydd, rydym wedi bod yn gweithio ar ddatblygu dull partneriaeth a fydd yn ein galluogi i ganolbwyntio ar ganlyniadau gwell i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, trwy ein hymrwymiad cyffredin i welliant a diogelwch, fel a ganlyn:

·         Lleihau dyblygu

·         Sicrhau cysondeb

·         Gweld y potensial o rannu adnoddau ac arbenigedd

·         Datblygu llais cryfach sy’n seiliedig ar rannu tystiolaeth a gwybodaeth

·         Cynyddu’r gwerth ychwanegol

·         Cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o’n hamcanion cyffredin a’n rolau gwahanol.
Y bwriad yw cael gwybodaeth glir, dryloyw a hygyrch am y safonau y gellir eu disgwyl gan wasanaethau a chan bobl a gwybodaeth am beth sy’n bodloni’r safonau ar hyn o bryd.

 

O fis Mehefin 2011 ymlaen, rhaid i’r rhai sy’n rheoli gofal preswyl i oedolion gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru er mwyn ymarfer fel Rheolwr Cartref Gofal i Oedolion. Mae’r cofrestru gorfodol hwn yn golygu, o’r dyddiad hwn ymlaen, y bydd ymarfer fel Rheolwr Cartref Gofal i Oedolion heb gofrestru yn anghyfreithlon (yn unol â darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â gorfodi)

 

Mae gan bob rheolwr ar y Gofrestr gyfrifoldeb dros gyflawni a chynnal y safonau ymddwyn ac ymarfer a nodir yn y Cod Ymarfer i Weithwyr Gofal Cymdeithasol. Pan na fydd rheolwr gofal cymdeithasol cofrestredig yn bodloni’r safonau a nodir yn y Cod, gall y Cyngor Gofal gymryd camau i ddatrys hyn.

 

Bydd cofrestru rheolwyr hefyd yn darparu gwybodaeth i’r Cyngor Gofal o ran y tueddiadau yn y gweithlu, gan ein galluogi i adnabod anghenion datblygu rheolwyr a’u staff yn gynnar. Mae’r Cyngor yn gweithio tuag at greu perthynas gadarnhaol gyda’r sawl sy’n cofrestru o’r newydd, gyda’r nod o ddeall ac ystyried eu blaenoriaethau a’u hanghenion i’r dyfodol o ran datblygu’n broffesiynol ac arwain y gweithlu.

 

Yn Fforymau diweddar y Cyngor Gofal a gynhaliwyd gyda Rheolwyr gofal preswyl i Oedolion i drafod eu Dysgu a’u Datblygiad, croesawodd y rheolwyr y cyfle i gyfrannu at eu  datblygiad personol gan bwysleisio gwerth mentora ac addysg a rennir.  Ymhlith y materion a nodwyd oedd arweinyddiaeth, goruchwylio staff, cyfraith cyflogaeth, dysgu trwy gydweithwyr a mynd i’r afael â chymhlethdodau. Bydd y wybodaeth hon yn llywio cais y Cyngor Gofal am gyllid gan y Gronfa Arweinyddiaeth Sector. Mae’r cais hwn i Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn canolbwyntio ar yr addysg ar arweinyddiaeth sy’n benodol i’r sector sydd ei hangen ar reolwyr yn y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd yn gaffaeliad sylweddol i hyrwyddo proffesiynoldeb trwy sgiliau arwain.

 

 

Modelau o ddarparu gofal sy’n newydd ac sydd ar y gweill

 

Mae sgiliau’r gweithlu gofal cymdeithasol o fewn unrhyw fodel o ddarparu gofal yn ganolog i safon a llwyddiant y ddarpariaeth honno. Mae demograffeg ac adnoddau cyfnewidiol yn awgrymu y bydd y sgiliau hynny’n canolbwyntio ar weithio gyda salwch neu gyflyrau hirdymor, ac o fewn cymunedau yn bennaf.

 

Nod y polisi sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru ar hyn o bryd yw darparu gofal integredig sy’n croesi ffiniau ac sy’n rhoi llais cryf i ddefnyddwyr a rheolaeth dros wasanaethau. Bydd yn rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol a’r tîm gofal cymdeithasol fod yn gyfrwng i alluogi pobl i wneud y newidiadau angenrheidiol i’w bywydau. Ni ddylid diystyru gwerth gweithlu proffesiynol sy’n gallu cynorthwyo cynhalwyr a defnyddwyr gwasanaethau yn ogystal â chyflwyno gwasanaethau a fydd yn golygu mwy o ddefnydd a dealltwriaeth o dechnoleg yn y dyfodol. 

 

Sgiliau Gofal a Datblygu yw Cyngor Sgiliau Sector y DU ar gyfer gweithlu’r maes Gofal Cymdeithasol a Phlant, ac mae Cyngor Gofal Cymru’n un o chwe phartner y Cyngor hwn. Y Cyngor Gofal sy’n cyflawni gwaith y Cyngor Sgiliau Sector yng Nghymru ac mae hyn yn rhan o’i gwaith llywodraethu yn y DU. Mae’r Cyngor Sgiliau Sector wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus am arian o Gronfa Buddsoddi Cyflogwyr UKCES; mae’r cynigion yn cynnwys arian ar gyfer dau brosiect sy’n defnyddio technoleg newydd mewn ffordd arloesol. Mae un yn defnyddio ffyrdd newydd o gyflwyno dysgu a’r llall yn datblygu sgiliau mewn defnyddio technoleg gynorthwyol, e.e. Teleofal.

 

Fel y nodwyd ynghynt, mae’r Cyngor Gofal yn gweithio gyda’r sector ar fodelau gweithio newydd ac yn ceisio asesu pa sgiliau sydd eu hangen ar weithlu’r dyfodol.

 

 

Y cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol, a modelau ariannu, rheoli a pherchnogaeth amgen, fel y rheini a gynigir gan y sector cydweithredol a chydfuddiannol, y trydydd sector,  a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

 

Mae’r Cyngor Gofal wedi bod yn ystyried y materion sy’n codi o ran sgiliau a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd o ganlyniad i newidiadau i’r modelau gwasanaeth a goblygiadau’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n prynu eu gofal eu hunain.  Mae’r Cyngor Gofal wrthi’n ceisio hyrwyddo Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd mewn gofal cymdeithasol ac yn gweithio gyda CGGC i ganfod ei werth i sefydliadau gwirfoddol.  Y nod yw gwneud yn siŵr bod gweithwyr yn cael y mynediad gorau posibl i’r addysg sydd ei hangen i ddarparu gofal o safon uchel i bobl sy’n agored i niwed.

 

Yn gywir

 

 

Arwel Ellis Owen

Cadeirydd



[1] Datganiad chwarterol AGGCC Tachwedd 2011

[2] GOFAL YN Y CARTREF – Heriau, Posibiliadau a goblygiadau ar gyfer y gweithlu yng Nghymru (Cyngor Gofal Cymru 2010)

 

[3] Asesiad Sgiliau Sector, Sgiliau Gofal a Datblygu Chwefror 2011

[4] Sgiliau i Swyddi: Archwiliad Cenedlaethol Sgiliau Strategol i Gymru 2011 (UKCES a Llywodraeth Cymru Mehefin 2011)

[5] Data UKCES

[6] Datganiad chwarterol Tachwedd 2011 AGGCC

[7] Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ONS Mehefin 2009

[8] Papur ymchwil Sgiliau Gofalu a Datblygu a PSSRU Mai 2011